Welsh Government announce a new Commission for Tertiary Education and Research
Wales to have new “national steward” to fund, regulate and support all post-16 education
The Welsh Government will today (1 Nov) set out its vision to radically reform post-16 education, for the first time ever enshrining in law nine national strategic purposes for the post-compulsory education system.
Some of the arrangements for organising tertiary education in Wales have been in place for 30 years, before big increases in student numbers, devolution and major changes in technology.
To ensure learners have the support of a coherent sector, focused on widening access and increasing opportunities, the Welsh Government will establish a new Commission for Tertiary Education and Research.
This would mark the first time in Wales’ history that all elements of post-16 education – including colleges, universities, adult education, apprenticeships and sixth forms – would come under the one body.
The Commission would monitor, register and regulate providers, and set out the standards expected within the sector – including Welsh medium provision.
As well as proposing the establishment of the new Commission, the Tertiary Education and Research (Wales) Bill – to be introduced at the Senedd today – establishes nine national strategic duties.
These legal duties reflect the Government’s long-term vision for the sector and will guide the Commission’s future work.
The nine strategic duties are:
- Promoting life-long learning;
- Promoting equality of opportunity;
- Encouraging participation in tertiary education;
- Promoting continuous improvement in tertiary education and research;
- Promoting collaboration and coherence in tertiary education and research;
- Contributing to a sustainable and innovative economy;
- Promoting tertiary education through the medium of Welsh;
- Promoting a civic mission;
- Promoting a global outlook.
As part of these reforms, the existing Higher Education Funding Council for Wales will be dissolved.
Jeremy Miles, the Minister for Education and the Welsh language, said:
“Supporting our post-16 education sector to face the future has never been more important.
“Much of the way in which we support and organise post-16 education has been in place for decades. We need to grasp this opportunity for change, so that we empower our education providers to be part of a diverse, agile and collaborative sector that delivers for learners throughout their lives, as well as for employers and communities.
“This Bill gives us the tools to do that. In establishing the Commission, this bill gives Wales a new national steward for tertiary education and research, with the interest of learners at its heart.
“It will take a system-wide view, supporting learners throughout their lives with the knowledge and skills to succeed. It will help secure independent and diverse institutions that will make significant contributions to national wellbeing and prosperity.
“For the first time in Welsh legislation, we set out what we believe, what we want and what we need from a successful and prosperous post-16 education and research sector.
“The nine national strategic duties for the Commission embody that vision and provide the long-term strategic framework for what this vital and varied sector needs to deliver – as we recover, renew and reform.
The Bill underwent consultation in 2020, and follows the recommendations set out in Professor Hazelkorn’s 2016 review: Towards 2030: A framework for building a world-class post-compulsory education system in Wales.
“Stiward cenedlaethol” i Gymru i gyllido, rheoleiddio a chefnogi addysg ôl-16
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei gweledigaeth i ddiwygio addysg ôl-16 mewn ffordd radical, gan ddeddfu ar naw diben strategol cenedlaethol ar gyfer y system addysg ôl-orfodol am y tro cyntaf erioed.
Mae rhai o’r trefniadau ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru wedi bod ar waith ers 30 mlynedd, cyn dyddiau’r cynnydd mawr yn niferoedd myfyrwyr, datganoli a newidiadau enfawr ym maes technoleg.
I sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth sector cydlynol, sy’n canolbwyntio ar ehangu mynediad a chynyddu cyfleoedd, mae Llywodraeth Cymru am sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Am y tro cyntaf yn hanes Cymru, byddai holl elfennau addysg ôl-16 – gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a’r chweched dosbarth – yn dod o dan un corff.
Byddai’r Comisiwn yn monitro, yn cofrestru ac yn rheoleiddio darparwyr, ac yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir o fewn y sector – gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Yn ogystal â chynnig sefydlu’r Comisiwn newydd, mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) – a gyflwynir yn y Senedd heddiw – yn sefydlu naw dyletswydd strategol genedlaethol. Mae’r dyletswyddau cyfreithiol hyn yn adlewyrchu gweledigaeth hirdymor y Llywodraeth ar gyfer y sector, a byddant yn llywio gwaith y Comisiwn i’r dyfodol. Y naw dyletswydd strategol yw:
- Hyrwyddo dysgu gydol oes;
- Hyrwyddo cyfle cyfartal;
- Annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol;
- Hyrwyddo gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil;
- Hyrwyddo cydweithio a chydlyniad mewn addysg drydyddol ac ymchwil;
- Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol;
- Hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Hyrwyddo cenhadaeth ddinesig;
- Hyrwyddo rhagolygon byd-eang.
Fel rhan o’r camau diwygio hyn, caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei ddiddymu.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Nid yw cefnogi ein sector addysg ôl-16 i wynebu sialensiau’r dyfodol erioed wedi bod yn bwysicach.
“Mae rhan helaeth o’r ffordd rydyn ni’n cefnogi ac yn trefnu addysg ôl-16 yn mynd yn ôl degawdau. Rhaid i ni fynd i’r afael ar y cyfle i newid, er mwyn i ni allu rhoi pŵer i ein darparwyr addysg, er mwyn iddynt allu fod yn rhan o sector amrywiol, hyblyg, cydweithredol sy’n cyflawni dros ddysgwyr trwy gydol oes, yn ogystal â chyflogwyr a chymunedau.
“Mae’r Bil hwn yn rhoi’r cyfle i ni wneud hynny. Drwy sefydlu’r Comisiwn, mae’r bil hwn yn rhoi stiward cenedlaethol newydd i Gymru ym maes addysg drydyddol ac ymchwil, ac yn rhoi’r lle canolog i fuddiannau dysgwyr.
“Bydd yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo. Bydd yn helpu i sicrhau sefydliadau annibynnol ac amrywiol sy’n cyfrannu’n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.
“Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, rydyn ni’n nodi’n glir yr hyn rydyn ni’n ei gredu, yr hyn rydyn ni eisiau ei weld a’r hyn sydd ei angen arnom mewn sector addysg ac ymchwil ôl-16 sy’n llwyddo ac yn ffynnu.
“Mae naw dyletswydd strategol genedlaethol y Comisiwn yn mynegi ein hamcanion ac yn darparu’r fframwaith strategol hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i’r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni – wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.”
Responses