Dysgwyr AU y Coleg yn graddio!
Roedd dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn rhan o ddigwyddiad graddio arbennig yn Neuadd Brangwyn.
Roedd y myfyrwyr wedi gwisgo eu capiau a’u gynau i ddathlu eu llwyddiant mewn cyrsiau addysg uwch megis cyfrifeg, busnes, gwyddoniaeth, peirianneg, gofal plant, holisteg, tai a rheolaeth.
“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg yn enwedig addysg bellach ac uwch, o ran addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi economi gref,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Dwi wrth fy modd bod Coleg Gŵyr Abertawe, ar y cyd â’n partneriaid addysg uwch ac eraill, yn gallu cefnogi’r agenda hwn ac mae’n parhau i ddatblygu ein darpariaeth trwy waith partneriaeth cadarn.”
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn addysgu cyrsiau addysg uwch mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Swydd Gaerloyw.
Yn 2018, roedd y Coleg wedi agor Canolfan Addysg Uwch bwrpasol ar Gampws Tycoch sy’n cynnwys chwe ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin i’w defnyddio dim ond gan fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau lefel uwch megis Graddau Sylfaen a chymwysterau HND.
Y flwyddyn nesaf byddwn yn lansio Ysgol Fusnes Plas Sgeti hefyd, a fydd yn gartref newydd i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau busnes a rheolaeth proffesiynol, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd. Diolch i gyllid gan Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adnewyddu’n llwyr i gynnwys ystafelloedd addysgu uwchdechnolegol newydd sbon, lle cymdeithasol, bar coffi a llyfrgell.
Darparwyd adloniant y seremoni graddio gan adrannau celfyddydau perfformio a cherddoriaeth y Coleg ac roedd myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau hefyd wrth law i gynorthwyo gwesteion.
Responses