From education to employment

Duathlon Y Mwmbwls mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe

Mae Activity Events Wales, sef cwmni digwyddiadau aml-chwaraeon blaenllaw yng Nghymru, wedi arwyddo partneriaeth newydd â Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe bellach yn cynnig graddau sylfaen mewn chwaraeon a rheoli digwyddiadau. Felly dilyniant syml oedd hi felly i gydweithio ag Activity Events Wales, er mwyn cynnig profiad uniongyrchol cwmpasog i’r myfyrwyr o ddarparu digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Fel darparwr addysg uwch blaenllaw yn ne Cymru, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio’r bartneriaeth i ddatblygu ei raglen rheoli digwyddiadau, gan gynnig profiad uniongyrchol i’r myfyrwyr o’r technegau gweithredol a chynlluniau marchnata sydd i’w hangen er mwyn cynnal digwyddiad llwyddiannus.

Dyma oedd gan Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, i’w ddweud am y bartneriaeth: “Mae’n gyfle arbennig i’n myfyrwyr fod yn rhan o ddigwyddiad mor glodfawr, ble byddant, heb os, yn ennill sgiliau a gwybodaeth amhrisiadwy. Mae hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo’n cyrsiau addysg uwch, sy’n tyfu mewn poblogrwydd o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n dangos hefyd y bo modd creu cysylltiadau o fewn y diwydiant trwy astudio’n cyrsiau. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Activity Wales am y cyfle i weithio ar y cyd, ac yn edrych ymlaen at weld datblygiad ein myfyrwyr.”

Dywedodd Matthew Evans, Prif Weithredwr Activity Wales: “Rydym yn falch iawn o’r cyfle i weithio mewn ffordd mor greadigol ac arloesol gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Bydd ein timoedd gweithredu a marchnata yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr y Coleg, ac rwy’n siŵr bydd y ddau ochr yn elwa’n fawr o’r bartneriaeth.”

Ar ôl cwrdd â’r tîm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a gweld yr adnoddau, braf oedd gweld angerdd y staff a’r ansawdd dysgu uchel. Mae’n gynllun addawol iawn.”

Mae Duathlon y Mwmbwls wedi ei leoli ym Mhenryn Gŵyr ac yn cynnig pellteroedd sbrint ac uwch sbrintiau i athletwyr o bob cwr a chornel y DU. Mae’n enyn ymateb ffafriol bob tro ymysg athletwyr profiadol a newydd. Cynhelir y duathlon eleni ar 23 Mawrth.

 


Related Articles

Responses