From education to employment

Disgyblion yn mwynhau gŵyl chwaraeon heulog

Mae dros 500 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ar draws Abertawe wedi cymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol Gŵyl Amlsgiliau a Champau’r Ddraig Coleg Gŵyr Abertawe yng Nghyfadeilad Chwaraeon Elba.

Mewn heulwen braf, rhoddwyd cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fel hoci, rownderi, pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi a golff.

“Prif nod y digwyddiad hwn yw dod â’r gymuned at ei gilydd ac i’r plant ysgol redeg o gwmpas a dysgu sgiliau newydd,” dywedodd y darlithydd Sion Cairns. “Mae’r digwyddiad ar gyfer pawb. Does dim rhaid i chi fod yn wych mewn addysg gorfforol i gymryd rhan, y syniad yw cael hwyl a rhoi cynnig ar gemau na fyddech chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw o’r blaen.”

Unwaith eto, roedd ein myfyrwyr yn rhan annatod o lwyddiant y dydd. Myfyrwyr Chwaraeon Lefel 3 yr ail flwyddyn oedd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad o’i gamau cynllunio cychwynnol i’r gwaith o oruchwylio’r logisteg ar y diwrnod, megis cwrdd â’r ysgolion a’u cyfarch, goruchwylio amserau cyrraedd a gadael y bysiau, a gweithio allan holl amserau’r rhaglen lawn.

Yn y cyfamser roedd myfyrwyr blwyddyn gyntaf Lefel 3 Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon yn gyfrifol am gyflwyno’r sesiynau a hyfforddi’r plant mewn grwpiau yn amrywio o grwpiau bach (tri neu bedwar ar y tro) i grwpiau mawr (hyd at 25 o blant).

Mae’r Coleg hefyd yn ddyledus i’r Gweilch yn y Gymuned, a helpodd i redeg yr orsaf rygbi ac a ddaeth â gweithgaredd taclo chwyddadwy gyda nhw yn ogystal â’u masgot Ozzie a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r plant.

Mae ein myfyrwyr yn cwblhau cymhwyster Arweinwyr Rygbi fel rhan o’u cwrs ac roedd hyn wedi arwain at y Coleg yn ffurfio cysylltiadau cryf â’r Gweilch yn y Gymuned gan fod gofyn iddynt ymweld ag ysgolion cynradd lleol a chyflwyno sesiynau rygbi.

Yr ysgolion cynradd oedd yn cymryd rhan eleni oedd Crwys, Gorseinon, Pontlliw, Cilâ, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, Pontarddulais, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago, Pengelli, Gendros a Thre-gŵyr, Penyrheol a Phontybrenin.

Mae adborth gan yr ysgolion wedi bod yn eithriadol o bositif, a dywedodd un pennaeth:

“Hoffwn i ddiolch i Sion a’r staff a’r myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe am wahodd ein disgyblion Blwyddyn 3 a 4…fel arfer, roedd fy staff wedi canmol trefniadau’r digwyddiad a mwynhad ein disgyblion.”


Related Articles

Responses