Coleg yn dathlu medalwyr
Mae 23 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau fel rhan o’r set ddiweddar o ddigwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru.
Mae CystadleuaethSgiliauCymru yn cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sydd wedi’u halinio â WorldSkills ac anghenion economi Cymru, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael eu rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr.
“Mae hwn yn ganlyniad gwych i’n myfyrwyr ac yn set drawiadol iawn o fedalau i Goleg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Prifathro Mark Jones. “Gweithiodd y myfyrwyr hyn yn galed iawn i baratoi ar gyfer eu digwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru ac rydw i wrth fy modd bod eu sgiliau a’u doniau galwedigaethol wedi cael eu gwobrwyo mor helaeth gan y panel beirniadu.”
“Mae cymaint i fod yn falch ohono yma, o’r ffaith ein bod ni wedi ennill mwy o fedalau Aur nag unrhyw Goleg arall – mewn 10 categori gwahanol – i’r amrywiaeth eang o feysydd cwricwlwm sydd wedi cefnogi’r cystadlaethau hyn. Mae’r perfformiad gan ein myfyrwyr galwedigaethol o safon uchel ac yn wir ategu cyflawniadau ein myfyrwyr Safon Uwch ac yn dangos y lefel uchel o berfformiad ardderchog cyson ar draws y Coleg.
“Llongyfarchiadau a diolch i bawb a gymerodd ran – y myfyrwyr a’r staff. Am gyflawniad rhagorol!
Aur:
David Kennedy – Electroneg Ddiwydiannol
Llewellyn Bowmer – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaethau Bwyty
Connor Trehar – Gwasanaethau Bwyty
Megan Tucker – Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
Karolis Lisauskas – TG
Alannah Thorne – Cynhyrchu Fideo Digidol
Jasmine Eagles – Cerddoriaeth Boblogaidd
Dylan Hodges – Cerddoriaeth Boblogaidd
Alexa Jones-Young – Cerddoriaeth Boblogaidd
Matthew Thirwell – Cerddoriaeth Boblogaidd
Eleri Van Block – Cerddoriaeth Boblogaidd
Wiktoria Gebka – Technoleg Ffasiwn
Leah Jones – Marchnata Gweledol
Callum East – Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau
Nathan Phillips – Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau
Arian:
William Sabatia – Gwaith Coed
Marcus Drennan – Electroneg Ddiwydiannol
James Frew – Diogelwch Rhwydweithiau TG
Efydd:
Erin Doek – Gwyddor Fforensig
Leon Harris – Gwyddor Fforensig
Nathan Akerman – Diogelwch Rhwydweithiau TG
Joshua James – Sgiliau Codio
Laurie Pennock – Dylunio Graffig
Responses