Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019
Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu unwaith eto, yn seremoni Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019.
Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r derbynwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd coleg o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol amser llawn i brentisiaid, dysgwyr AU a chleientiaid o raglenni cymorth cyflogadwyedd y Coleg.
Roedd cyflwynydd BBC Wales Ross Harries yn llywyddu’r noson, a chafodd myfyrwyr eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol. Yn ymuno ag ef roedd y siaradwr gwadd Elin Manahan Thomas, cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe sydd wedi cael ei galw yn ‘un o’r sopranos mwyaf amryddawn o’i chenhedlaeth’.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi cael un o’r proffiliau gorau ymhlith unrhyw sefydliad addysg,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Cyflawnwyd hyn i gyd o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ein myfyrwyr – pob un o’r 13,000 ohonynt bob blwyddyn – a’n staff, ac mae’r achlysur heno yn dathlu’r llwyddiant hwnnw, wrth i ni dalu teyrnged i’r goreuon.
“I’r holl fyfyrwyr hynny sydd wedi derbyn gwobrau eleni, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau personol ond hoffwn ddiolch i chi hefyd am fod yn fodelau rôl y gall myfyrwyr eraill, fydd yn eich dilyn, ddysgu a chael budd ohonynt.”
Rhestr lawn Myfyrwyr y Flwyddyn 2019:
Y Celfyddydau Creadigol |
Morgan Summers |
Y Celfyddydau Gweledol |
Kristy Morgan |
ASO / ESOL |
Jeymi Pena |
Y Dyniaethau / Ieithoedd |
Lisa Lucini |
Iechyd / Gofal Cymdeithasol |
Daniel Jones |
Busnes |
Cameron Appleby |
Gwallt / Harddwch |
Megan Sadler |
Lletygarwch / Teithio |
Katarzyna Owczarek |
Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Scott Williams |
Chwaraeon / Gwasanaethau Cyhoeddus |
Jordan Delaney |
Peirianneg |
Katie Barnes |
Adeiladu / Plymwaith |
Aaron Lockhart |
Mathemateg / Gwyddoniaeth / Gwyddor Gymdeithasol |
Luke Marques |
Technoleg |
Evelyn Hugtenburg |
Hyfforddiant GCS |
Donna Wright |
Yr Iaith Gymraeg |
Siobhan Arkwright |
Rhyngwladol |
Ranyoung (Bella) Kim |
Addysg Uwch |
Chloe Harries |
Prentis |
Iestyn Thomas |
Llwyddiant Chwaraeon |
Lauren Francis |
Partner Cyflogwr |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Mynediad |
Harvey Bowden |
Dilyniant ac Ymrwymiad |
Taneka Hyatt |
Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol |
Hannah Powell |
Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn |
Siobhan Arkwright |
Roedd y digwyddiad yn arddangosiad ymarferol ar gyfer talentau myfyrwyr hefyd, ac roedd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a Cholur Ffotograffig wedi darparu’r adloniant. Roedd myfyrwyr Lefel 3 Theatr Dechnegol hefyd wedi darparu’r set, y goleuadau a’r sain yn y digwyddiad.
DIWEDD
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiolchgar iawn i noddwyr Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr 2019:
AB Glass; Andrew Evans; Bevan Buckland LLP; Blake Morgan; City & Guilds; Partneriaeth Sgiliau Coleg Prifysgol, Prifysgol Abertawe; ComputerAid; Day’s Motor Group; First Cymru; Academi Iechyd a Lles Prifysgol Abertawe; Hengoed Care; Mark Jones; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; RW Learning; South Wales Transport; Tata Steel; The Wave; Track Training; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Vibe Video Production; Vortex IoT; WalesOnline; Zenith Print Group
Lluniau: Peter Price Media
Responses