From education to employment

Wythnos Addysg Oedolion 2019

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gael dathlu Wythnos Addysg Oedolion eleni gydag ystod eang o weithdai creadigol yn cael eu cynnig yng Nghampws Llwyn y Bryn.

Bydd y gweithdai’n amrywio o arlunio a ffotograffiaeth i argraffu sgrîn a darlunio ffasiwn. Bydd y gweithdai’n addas ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sydd â phrofiad cyfyngedig o gelf a dylunio.

Mae pob gweithdy am ddim ac yn agored i’r rhai sydd yn 18+, a byddant yn cael eu cynnal yng Nghampws Llwyn y Bryn, 77 Walter Road, Uplands, SA1 4QA.

Gweithdy 1: Argraffu Sgrîn ar gyfer Patrymau Arwyneb
Dydd Llun 17 Mehefin, 9.30am-12.30pm

Gweithdy 2: Ffotograffiaeth Stiwdio
Dydd Mawrth 18 Mehefin, 10am-12pm

Gweithdy 3: Dylunio Ffasiwn Gyfoes
Dydd Mercher 19 Mehefin, 10am-12.30pm

Gweithdy 4: Bywluniadu
Dydd Iau 20 Mehefin, 10am-12.30pm

Gweithdy 5: Tecstilau Arbrofol
Dydd Gwener 21 Mehefin, 10am-1pm

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech archebu lle, ffoniwch 01792 284021, neu e-bostiwch [email protected]

Mae Wythnos Addysg Oedolion, sef gŵyl ddysgu flynyddol mwyaf y DU bellach yn cael ei ddathlu mewn dros 55 o wledydd ledled y byd. Bob blwyddyn, yng Nghymru’n unig, mae dros 10 mil o oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig. Bydd y digwyddiad yn rhedeg eleni o 17-23 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Addysgu Oedoion ewch i https://bit.ly/2J4R7QB


Related Articles

Responses