From education to employment

Motorsport Academy driving passion in young people

Young students enjoying the Motorsport Academy run by Coleg Sir Gâr

An innovative new motorsport academy is inspiring young people into the diverse range of fields available within the motorsport industry, such as rallying and autograss.

Run by Coleg Sir Gâr’s Motor Vehicle Centre in Carmarthen, children aged between 13-15 have been learning a number of skills, including how to read and create their own rally Pacenotes, all within a 10 week course.

As part of the programme, youngsters met industry specialists such as GotBoost, who maintain and run Ginetta race cars. They learnt how to prepare a car for racing, from wheel changes to data logging. They also learnt about co-driving from the MSA Academy, how to read pace notes and experienced a Darrian T9 GTR stage rally car. The group also practiced road rally navigation, motocross, how to run a stage rally event, how to get into motorsport, scrutineering, chassis set-up and tyre technology, rolling road and rally car preparation.

Alan James, Coleg Sir Gâr motor vehicle lecturer, who runs the college’s Motorsport Academy, said: “It’s an exciting experience for young people who want to get involved and learn about the different disciplines within motorsport.

“I’d like to show our enormous appreciation to all our industry specialists for their professional input and time dedicated to inspiring and sharing their experiences with members of the academy who were very keen to learn.”

The next motorsport academy for 13-15 year-olds at Coleg Sir Gâr will take place in mid-October on a Tuesday evening from 4.30pm to 7.30pm.

Academi Chwaraeon Modur yn gyrru brwdfrydedd mewn pobl ifanc

Mae Academi Chwaraeon Modur arloesol newydd yn ysbrydoli pobl ifanc i mewn i’r ystod amrywiol o feysydd sydd ar gael o fewn y diwydiant chwaraeon modur, megis ralio ac autograss.

Caiff ei rhedeg gan Ganolfan Cerbydau Modur Coleg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, ac mae plant rhwng 13-15 oed wedi bod yn dysgu nifer o sgiliau, gan gynnwys sut i ddarllen a chreu eu nodiadau rali eu hunain, sef Pacenotes, a’r cwbl o fewn cwrs 10 wythnos o hyd.

Fel rhan o’r rhaglen, gwnaeth y bobl ifanc gwrdd ag arbenigwyr y diwydiant megis GotBoost, sy’n cynnal a chadw a rhedeg ceir rasio Ginetta. Dysgon nhw sut i baratoi car ar gyfer rasio, o newid yr olwynion i gofnodi data. Hefyd dysgon nhw am gyd-yrru oddi wrth Academi’r Gymdeithas Chwaraeon Modur (MSA), sut i ddarllen nodiadau llwybr a chawsant brofiad o gar ralio cyfnod Darrian T9 GTR. Bu’r grŵp hefyd yn ymarfer mordwyo rali ffordd, motocross, sut i redeg digwyddiad rali cyfnod, sut i gychwyn gwneud chwaraeon modur, archwilio, gosodiadau siasi a thechnoleg teiars, offer rolling road a pharatoi car ar gyfer ralio.

Meddai Alan James, sy’n ddarlithydd cerbydau modur yng Ngholeg Sir Gâr, ac sy’n rhedeg Academi Chwaraeon Modur y coleg: “Mae’n brofiad cyffrous i bobl ifanc sydd am gymryd rhan a dysgu am y gwahanol ddisgyblaethau o fewn chwaraeon modur.

“Hoffwn i ddangos ein gwerthfawrogiad mawr i’n holl arbenigwyr diwydiannol am eu mewnbwn proffesiynol a’r amser maen nhw wedi’i roi er mwyn ysbrydoli a rhannu eu profiadau gydag aelodau’r academi a oedd yn awyddus iawn i ddysgu.”

Cynhelir yr academi chwaraeon modur nesaf ar gyfer ieuenctid 13-15 oed yng Ngholeg Sir Gâr ar ganol mis Hydref, ar nos Fawrth o 4.30pm i 7.30pm.

 


Related Articles

Responses